Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-24-13 – Papur 1
GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR
CLA316 - Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau cyfatebol 2008. Mae’r Rheoliadau hyn yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb Nitradau yr UE i reoli’r defnydd o wrtaith nitrogen mewn ardaloedd sy’n agored i niwed gan nitradau.
Mae amryw o reolaethau, gan gynnwys gosod terfynau blynyddol ar y maint o wrtaith nitrogen y gellir ei ddefnyddio a phennu cyfnodau pan na chaniateir taenu gwrtaith nitrogen.
CLA317 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 ac yn darparu y caiff panelau apêl ystyried a yw trefniadau derbyn yn anghyfreithlon yn ogystal ag a oedd penderfyniad yr awdurdod derbyn yn afresymol. Maent hefyd yn nodi trefniadau ar gyfer talu lwfansau y caniateir eu talu i aelodau'r panel.